Total quantity or scope of tender
Outputs
The evaluation needs to face out to the public, to our funders and be a useable internal document for our future work. The findings may be used as evidence for support needs for our member organisations, by Welsh Government policy makers and scheme managers to identify areas of good practice and areas where improvements might need to be made and by SF&G’s to highlight the importance of its work.
A written report no longer than 20 pages (A4 size, 12 font, excluding images), must be prepared as the final submission for this evaluation. (The report should be in a final format using SF&G’s brand guidelines) It must be produced with the above audiences in mind. It should cover each work package separately, including a description of the work undertaken, the findings from each work package and make recommendations. In addition it will provide:
• An overview of the reach and impact the funding has provided.
• Show where variation / deviation has occurred and reasons why.
• Evidence of the benefits to the sector and their wider communities.
• Any additional outputs delivered that were not necessarily forecast.
• A PDF executive summary in English and Welsh languages is required.
• We would like a SWOT & PESTLE analysis of the sector in Wales and identify where our programme of support did not reach and therefore didn’t address those weaknesses of the sector.
The data and full analysis from each work package should be included as an appendix.
Allbwn
Mae angen i’r gwerthusiad fod yn addas ar gyfer y cyhoedd, ein cyllidwyr yn ogystal â bod yn ddogfen ddefnyddiol o safbwynt ein gwaith yn y dyfodol. Hwyrach y bydd angen defnyddio’r canlyniadau fel tystiolaeth o ran anghenion cymorth ein haelodau sefydliadol, gan unigolion o fewn Llywodraeth Cymru sy’n llunio polisi ac yn rheoli cynlluniau er mwyn adnabod meysydd arfer dda, a meysydd lle bydd angen gwneud gwelliannau efallai, a gan FfaGC er mwyn tynnu sylw at bwysigrwydd eu gwaith.
O safbwynt y gwerthusiad hwn, bydd angen llunio adroddiad ysgrifenedig heb fod yn hirach na 20 tudalen (maint A4, ffont maint 12, heb unrhyw luniau), fel cyflwyniad terfynol. (Dylai’r adroddiad ddefnyddio fformat terfynol gan ddefnyddio canllawiau brand FfaGC). Mae’n rhaid i’r adroddiad fod yn addas ar gyfer y cynulleidfaoedd a nodir uchod. Dylai delio gyda phob pecyn gwaith ar wahân, gan gynnwys disgrifiad o’r gwaith a wnaethpwyd, canlyniadau pob pecyn gwaith, ac argymhellion. Yn ogystal, bydd yn:
• Rhoi trosolwg o gyrhaeddiad ac effaith a ddarparwyd gan y cyllid.
• Dangos lle mae amrywiadau / gwyriadau wedi digwydd, a’r rhesymau dros hyn.
• Dangos tystiolaeth o’r buddion i’r sector a’r cymunedau ehangach.
• Dangos unrhyw allbwn ychwanegol a gyflawnwyd nad oeddynt yn rhan o’r bwriad gwreiddiol.
• Cynnwys crynodeb gweithredol ar ffurf PDF yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• Byddem yn hoffi cael dadansoddiad SWOT a PESTLE o’r sector yng Nghymru, a dylid nodi lle methodd ein rhaglen cymorth gyrraedd ei nod, ac felly lle nad oedd wedi mynd i’r afael â’r gwendidau hynny o ran y sector.
Dylid cynnwys y data a dadansoddiad llawn ar bob pecyn gwaith fel atodiad.
|