SPD request details
Authority Details
Official Name: Millstream (robert@millstream.eu)
Country:
Notice Details
Procurement Procedure
Title: test
Short Decription: test
File Reference Number:
Criteria
Gweithdrefn - Gwybodaeth am Lotiau
[C63] Gofynion yn ymwneud â lotiau
Rhowch ragor o wybodaeth am y lotiau yn y contract hwn.
Gweithdrefn - Codau CPV
[C64] Codau CPV y Weithdrefn Gaffael
Codau CPV y Weithdrefn Gaffael
Gwybodaeth am y Cynigydd - Gwybodaeth am y Cynigydd
[2A1] Busnes Bach, Busnes Canolig neu Ficrofusnes
A ydych yn fusnes bach, busnes canolig neu ficrofusnes ai peidio?
[2A2] Busnes a Gynorthwyir
Dosbarthiadau perthnasol (nodwch a ydych yn dod o dan un o'r rhain, ac os felly, pa un)
Menter Gymdeithasol, Cymunedol a Gwirfoddol (VCSE);
Gweithdy Gwarchodol;
Cwmni cydfuddiannol gwasanaethau cyhoeddus
[2A3] Math o gyfranogi
A ydych yn cyflwyno cais fel prif gyswllt grwp o weithredwyr economaidd?
[2A4] Is-gontractio
A ydych chi neu, os yw'n gymwys, y grwp o weithredwyr economaidd yn bwriadu defnyddio is-gontractwyr?
[2A5] Ymuno â chofrestr broffesiynol berthnasol
Os yw'n gymwys, a yw eich sefydliad wedi ymuno â'r gofrestr/cofrestrau proffesiynol neu fasnach priodol yr aelod-wladwriaeth lle mae wedi'i sefydlu?
[2A6] Awdurdodiad neu aelodaeth o sefydliad penodol
Yn y wladwriaeth lle rydych wedi'ch sefydlu, a yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi feddu ar awdurdodiad penodol, neu fod yn aelod o sefydliad penodol er mwyn darparu'r gwasanaethau a nodir yn yr ymarfer caffael hwn?
Gwahardd - Seiliau dros Wahardd yn Orfodol
[3A1a] Trosedd Cynllwyn yn y Gyfraith Gyffredin
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd cyfranogi fel y'i diffinnir yn adran 45 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015
Cynllwyn o fewn ystyr adran 1 neu 1A o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 neu erthygl 9 neu 9A o Orchymyn Ymgeisiau Troseddol a Chynllwyn (Gogledd Iwerddon) 1983, pan fo'r achos hwnnw o gynllwyn yn ymwneud â chyfranogi mewn sefydliad troseddol fel y'i diffinnir yn erthygl 2 o Benderfyniad Fframwaith Cyngor 2008/841/JHA ar y frwydr yn erbyn troseddau cyfundrefnol?
[3A1b] Llygredd
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o Lygredd o fewn ystyr adran 1(2) o Ddeddf Arferion Llwgr Cyrff Cyhoeddus 1889 neu adran 1 o Ddeddf Atal Llygredd 1906; Trosedd llwgrwobrwyo yn y gyfraith gyffredin; Llwgrwobrwyo o fewn ystyr adran 1, 2 neu 6 o Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010, neu adran 113 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983?
[3A1c] Twyll
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw un o'r troseddau canlynol, lle mae'r drosedd yn ymwneud â thwyll sy'n effeithio ar fuddiannau ariannol Cymunedau Ewropeaidd; fel y'u diffinnir yn Erthygl 1 o'r confensiwn ar ddiogelu buddiannau ariannol Cymunedau Ewropeaidd:
trosedd twyllo cyllid y wlad yn y gyfraith gyffredin;
trosedd cynllwyn twyllo yn y gyfraith gyffredin;
twyll neu ddwyn o fewn ystyr Deddf Dwyn 1968, Deddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1969, Deddf Dwyn 1978 neu Orchymyn Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1978;
masnachu'n dwyllodrus o fewn ystyr adran 458 o Ddeddf Cwmnïau 1985, erthygl 451 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986 neu adran 993 o Ddeddf Cwmnïau 2006;
efadu'n dwyllodrus o fewn ystyr adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 neu adran 72 o Ddeddf Treth ar Werth 1994;
trosedd mewn cysylltiad â threthu yn yr Undeb Ewropeaidd o fewn ystyr adran 71 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1993;
difwyno neu guddio dogfennau neu achosi i sicreb werthfawr gael ei gweithredu o fewn ystyr adran 20 o Ddeddf Dwyn 1968 neu adran 19 o Ddeddf Dwyn (Gogledd Iwerddon) 1969;
twyll o fewn ystyr adran 2, 3 neu 4 o Ddeddf Twyll 2006;
meddu ar eitemau i'w defnyddio i dwyllo o fewn ystyr adran 6 o Ddeddf Twyll 2006, neu wneud, addasu, cyflenwi neu gynnig i gyflenwi eitemau i'w defnyddio i dwyllo o fewn ystyr adran 7 o'r Ddeddf honno;
[3A1d] Troseddau terfysgaeth neu droseddau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau terfysgaeth
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o unrhyw drosedd:
a restrir yn adran 41 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008;
a restrir yn atodlen 2 i'r Ddeddf honno lle mae'r llys wedi penderfynu bod cysylltiad â therfysgaeth;
o dan adrannau 44 i 46 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2007 sy'n ymwneud â throsedd a gwmpesir gan y ddau bwynt blaenorol?
[3A1e] Gwyngalchu arian neu ariannu terfysgaeth
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o wyngalchu arian o fewn ystyr adrannau 340(11) a 415 o Ddeddf Enillion Troseddau 2002; Trosedd mewn cysylltiad ag enillion ymddygiad troseddol o fewn ystyr adran 93A, 93B neu 93C o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 neu erthygl 45, 46 neu 47 o Orchymyn Enillion Troseddau (Gogledd Iwerddon) 1996.
[3A1f] Llafur plant a mathau eraill o fasnachu mewn pobl
A yw'r cynigydd wedi cael ei ddyfarnu'n euog o drosedd o dan adran 4 o Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Hawlwyr ac ati) 2004; trosedd o dan adran 59A o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003; trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009; trosedd mewn cysylltiad ag arian sy'n deillio o fasnachu cyffuriau o fewn ystyr adran 49, 50 neu 51 o Ddeddf Masnachu Cyffuriau 1994; trosedd o dan adran 2 neu 4 o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015
[3A2a] Talu trethi
Rheoliad 57(3) – Ar gyfer eich sefydliad, a bennwyd drwy benderfyniad barnwrol neu weinyddol, a gaiff effaith derfynol a rhwymol yn unol â darpariaethau cyfreithiol unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu ddarpariaethau cyfreithiol y wlad lle y sefydlwyd eich sefydliad (os yw y tu allan i'r DU), fod eich sefydliad yn torri'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â thalu treth?
[3A2b] Talu nawdd cymdeithasol
Rheoliad 57(3) – Ar gyfer eich sefydliad, a bennwyd drwy benderfyniad barnwrol neu weinyddol, a gaiff effaith derfynol a rhwymol yn unol â darpariaethau cyfreithiol unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig neu ddarpariaethau cyfreithiol y wlad lle y sefydlwyd eich sefydliad (os yw y tu allan i'r DU), fod eich sefydliad yn torri'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â thalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol?
Gwahardd - Seiliau dros Wahardd yn ôl Disgresiwn
[3B1] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith amgylcheddol
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith amgylcheddol?
[3B2] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith gymdeithasol
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith gymdeithasol?
[3B3] Torri rhwymedigaethau ym meysydd cyfraith llafur
A yw'r cynigydd, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi torri ei rwymedigaethau ym meysydd cyfraith llafur?
[3B4a] Methdaliad
A yw'r cynigydd yn fethdalwr?
[3B4b] Ansolfedd
A yw'r cynigydd yn destun camau ansolfedd neu ddirwyn i ben?
[3B4c] Asedau sy'n cael eu gweinyddu gan ddiddymwr
A yw'r cynigydd mewn sefyllfa lle mae ei asedau'n cael eu gweinyddu gan ddiddymwr neu lys?
[3B4d] Cytundeb â chredydwyr
A oes gan y cynigydd gytundeb â chredydwyr?
[3B4e] Gweithgareddau busnes wedi'u gohirio
A yw'r cynigydd mewn sefyllfa lle mae ei weithgareddau busnes wedi'u gohirio?
[3B4f] Sefyllfa debyg i fethadaliad o dan gyfraith genedlaethol
A yw'r cynigydd mewn unrhyw sefyllfa debyg oherwydd gweithdrefn debyg o dan gyfreithiau a rheoliadau cenedlaethol?
[3B5] Euog o gamymddwyn proffesiynol difrifol
A yw'r cynigydd yn euog o gamymddwyn proffesiynol difrifol?
[3B6] Cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill gyda'r nod o ystumio'r gystadleuaeth
A yw'r cynigydd wedi llunio cytundebau â gweithredwyr economaidd eraill gyda'r nod o ystumio'r gystadleuaeth?
[3B7] Gwrthdaro buddiannau oherwydd ei ran yn y weithdrefn gaffael
A yw'r cynigydd yn ymwybodol o unrhyw wrthdaro buddiannau o fewn ystyr rheoliad 24 oherwydd ei ran yn y weithdrefn gaffael?
[3B8] Ymwneud yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol â'r gwaith o baratoi'r weithdrefn gaffael hon
A yw'r cynigydd neu ymgymeriad sy'n ymwneud ag ef wedi cynghori'r sefydliad neu'r endid contractio, neu fel arall wedi ymwneud â'r gwaith o baratoi'r weithdrefn gaffael?
[3B9] Dod â chontract i ben yn gynnar
A yw'r cynigydd wedi dangos diffygion sylweddol neu fynych ym mherfformiad un o'r gofynion parhaol o dan gontract cyhoeddus blaenorol, contract blaenorol ag endid contractio neu gontract consesiwn blaenorol a arweiniodd at ddod â'r contract blaenorol hwnnw i ben yn gynnar, iawndal neu sancsiynau eraill tebyg?
[3B10] Cosbrestru
A ganfuwyd eich bod chi, neu eich sefydliad, wedi bod yn defnyddio'r arfer o 'gosbrestru' yn ystod y tair blynedd diwethaf?
[3B11] Camliwio
Atebwch y datganiadau canlynol:
1) Mae'r sefydliad yn euog o gamliwio difrifol wrth roi'r wybodaeth sydd ei hangen i gadarnhau nad oes sail dros wahardd neu i fodloni'r meini prawf dethol.
2) Mae'r sefydliad wedi cadw gwybodaeth o'r fath yn ôl.
3) Ni all y sefydliad ddarparu dogfennau ategol sydd eu hangen o dan reoliad 59 o Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015.
4) Mae'r sefydliad wedi dylanwadu ar broses benderfynu'r awdurdod contractio er mwyn cael gafael ar wybodaeth gyfrinachol a all olygu bod ganddo fantais fawr yn y weithdrefn gaffael, neu wedi rhoi gwybodaeth gamarweiniol yn esgeulus a all ddylanwadu'n fawr ar benderfyniadau ynghylch gwahardd, dethol neu ddyfarnu.
Dethol - Gallu Technegol a Phroffesiynol
PEIDIWCH Â DEFNYDDIO
Dethol - Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015
[4C1] Y Ddeddf Caethwasiaeth Fodern
A ydych yn sefydliad masnachol perthnasol fel y'i diffinnir yn adran 54 ("Tryloywder mewn cadwyni cyflenwi ac ati") o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 ("y Ddeddf")?
Dethol - Yswiriant
[4D2] Yswiriant – Atebolrwydd Cyhoeddus
Cadarnhewch a oes gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar y lefel a nodir isod eisoes, neu a allwch ymrwymo i'w gael, cyn dechrau'r contract:
Dethol - Sgiliau a Phrentisiaethau
[4E2] Cefnogaeth gan y Gadwyn Gyflenwi
A oes proses ar waith i sicrhau bod eich cadwyn gyflenwi'n cefnogi sgiliau, datblygu a phrentisiaethau, ac a allwch ddarparu tystiolaeth ar gais?
Dethol - Dur
[4F3] Torri Deddfwriaeth Gwrthddympio
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, a ydych wedi cael eich dyfarnu'n euog, neu a yw unrhyw aelod o'ch cadwyn gyflenwi wedi cael ei ddyfarnu'n euog, o dorri'r ddeddfwriaeth gwrthddympio neu ddeddfwriaeth debyg mewn unrhyw awdurdodaeth arall yn y byd?