Description of the goods or services required
Project ymchwil i gyrhaeddiad Cymraeg llafar dwy garfan o ddysgwyr, sef Carfan A a Charfan B.
Carfan A = dysgwyr 16-18 oed sydd wedi cwblhau TGAU Cymraeg Ail Iaith;
Carfan B = oedolion sydd wedi cwblhau lefel B1 (Canolradd).
1. Cynnal ymchwil pen desg i adroddiadau a gweithiau ymchwil perthnasol eraill, gan ystyried y newidynnau sydd ynghlwm â chymharu lefelau iaith dwy garfan wahanol; hefyd y disgwyliadau sydd ymhlyg yn y cymwysterau sy’n bodoli’n barod ar gyfer y ddwy garfan.
2. Cynnull panel ymgynghorol i lywio’r project ar lefel gyffredinol, a fydd yn cynnwys swyddogion y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, CBAC a sefydliadau perthnasol eraill. Panel bach o unigolion arbenigol fydd hwn, nid trawstoriad o’r sector addysg. Rhagwelir y bydd angen tri chyfarfod hanner diwrnod at ddibenion y project hwn.
3. Paratoi profion llafar diagnostig a fydd yn addas i’w defnyddio gyda’r ddwy garfan, er mwyn adnabod cryfderau ac adnabod proffil iaith Cymraeg llafar mewn ffordd sy’n deg ac yn fesuradwy.
4. Ateb gofynion gwarchod data a moeseg unrhyw ymchwil a gynhelir.
5. Cysylltu â chanolfannau dysgu er mwyn trefnu bod digon o ddysgwyr o’r ddwy garfan yn fodlon cymryd rhan yn y project; cael hyd i gyfwelwyr llafar; cynnal hyfforddiant i’r cyfwelwyr; cael hyd i aseswyr; cynnal yr asesiadau a’u recordio ar-lein, wedi i’r cyfranogwyr gydsynio’n ffurfiol; trefnu asesu priodol; paratoi’r canlyniadau i’w dadansoddi.[1]
6. Trefnu holiadur adborth i’w anfon at y rhanddeiliaid.
7. Paratoi adroddiad yn crynhoi canfyddiadau’r ymchwil ac yn argymell sut orau i ddarparu ar gyfer carfan A a chynnig y llwybrau mwyaf addas iddynt o fewn y maes dysgu Cymraeg. Bydd awdur/on yr adroddiad hefyd yn ystyried unrhyw oblygiadau posibl neu argymhellion ehangach, a allai gyfrannu at drafodaethau mewn meysydd cysylltiedig, ac a fydd yn cefnogi nodau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Gymraeg. Gellir cynnwys argymhellion eraill sy’n ymwneud â dulliau dysgu, adnoddau, strwythur y ddarpariaeth ac ymchwil pellach posibl hefyd.
NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=114436.
|