Description of the goods or services required
Cymraeg:
Byw’n Glyfar Llywodraeth Cymru - Rhaglen Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio (WSRID)
CYSTADLEUAETH HER
Gan adeiladu ar lwyddiannau a’r hyn a ddysgwyd o raglenni SBRI a Chontractau Arloesi Byw’n Glyfar yn y gorffennol, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio ceisiadau gan sefydliadau’r sector cyhoeddus cyn bo hir i gynnig heriau datgarboneiddio yn seiliedig ar le a fydd yn ffocws ar gyfer rhaglen ariannu newydd sef Ymchwil ac Arloesi Systemau Cyfan ar gyfer Datgarboneiddio 1.0 (WSRID 1.0). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dyfarnu hyd at 2 filiwn o bunnoedd posibl drwy WSRID ar draws dau gam yn ystod 2024-2026.
Bydd WSRID yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfres o brosiectau arloesi datgarboneiddio (Heriau) sy’n adeiladu ar y dystiolaeth yn y 22 Cynllun Ynni Ardal Leol (LAEPs) ac sydd hefyd yn cyd-fynd â’r blaenoriaethau rhanbarthol strategol a amlinellir yn y pedwar Cynllun Ynni Rhanbarthol (REPs) sy’n cwmpasu Cymru gyfan.
Ym Mlwyddyn 1 (Cam 1 - Dichonoldeb), bydd cyllid o hyd at 500,000 o bunnoedd yn cael ei ddyfarnu i hyd at 5 Perchennog Her (hyd at 100,000 o bunnoedd yr un). Y sefydliadau sy’n gymwys i fod yn Berchnogion Her WSRID yw Awdurdodau Lleol Cymru, Bargeinion Dinesig a Chyrff Twf Rhanbarthol yng Nghymru a Byrddau ac Ymddiriedolaethau Rhaglen Iechyd GIG Cymru. Bydd Perchenog Her llwyddiannus wedyn yn gyfrifol am gynnal rhagor o gystadlaethau dilynol i ddod o hyd i gyflenwyr i gyflawni prosiectau dichonoldeb arloesol gan ddefnyddio mecanwaith ariannu Contractau Arloesi. Mae cyllid pellach o tua 1.5 – 2 filiwn yn debygol o fod ar gael ym Mlwyddyn 2 ar gyfer ail gam Arddangos WSRID.
Bydd ffenestr cystadleuaeth Her Cam 1 WSRID yn agor ar gyfer ceisiadau gan gyrff sector cyhoeddus am fis, ac yn agor ar 2 Medi 2024. Cynhelir Digwyddiadau Briffio yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Medi ar gyfer cyrff cyhoeddus cymwys a darpar gyflenwyr cyflawni prosiectau i ddysgu rhagor am y rhaglen. Cynhelir y sesiynau hyn yng Ngogledd a De Cymru, gan roi cyfle i ofyn cwestiynau ac i rwydweithio.
Mae gan WSRID Byw’n Glyfar ffocws yn seiliedig ar le, ac mae’n cynnig cyfle i gryfhau a chefnogi rôl arloesi mewn LAEPs. Mae’n cydweddu ag amcanion Ynni Cymru i ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i bobl leol ac sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio yng Nghymru, a hefyd cyflymu’r broses o drosglwyddo i Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) a’u rhoi ar waith. I ddysgu mwy am gynllun Byw’n Glyfar a rhaglenni SBRI/Contractau Arloesi eraill mae wedi’u cynnal ewch at https://www.llyw.cymru/cynllun-bywn-glyfar
Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn cefnogi ac yn gweinyddu gweithgareddau ymgysylltu rhaglen WSRID gyda rhanddeiliaid ar ran Byw’n Glyfar Llywodraeth Cymru.
I ddysgu rhagor am WSRID a chofrestru ar gyfer y Digwyddiadau Briffio ym mis Medi cysylltwch â WSRID@gwasanaethynni.cymru
____
English:
Welsh Government Smart Living - Whole Systems Research and Innovation for Decarbonisation (WSRID) Programme
CHALLENGE COMPETITION
Building on the successes and learnings from past Smart Living SBRI Contracts for Innovation programmes, the Welsh Government will shortly be seeking applications from public sector organisations to propose place-based, decarbonisation challenges that will be the focus for a new funding programme called the Whole System Research and Innovation for Decarbonisation 1.0 (WSRID 1.0). Welsh Government is looking to award up to a potential 2 million pounds through WSRID across two separate phases during 2024-2026.
WSRID will focus on developing a pipeline of decarbonisation innovation projects (Challenges) that builds on the evidence in the 22 Local Area Energy Plans (LAEPs) and also aligns to the strategic regional priorities outlined in the four Regional Energy Plans (REPs) that cover Wales.
In Year 1 (Phase 1 - Feasibility), funding of up to 500,000 pounds will be awarded to up to 5 Challenge Owners (up to 100,000 pounds each). Organisations eligible to be WSRID Challenge Owners are Welsh Local Authorities, City Deals and Regional Growth Bodies in Wales and NHS Wales Health Programme Boards and Trusts. Successful Challenge Owners will then be responsible for running further subsequent competitions to source suppliers to deliver innovative feasibility projects using the Contracts for Innovation funding mechanism. Further funding in the region of 1.5 – 2 million pounds is likely to be available in Year 2 for the second Demonstrator phase of WSRID.
The WSRID Phase 1 Challenge competition window will open for bids from public sector bodies for one month, commencing 2 September 2024. Briefing Events will be held during the week commencing 16 September for eligible public bodies and potential downstream project delivery suppliers to learn more about the programme. These sessions will be held in both North and South Wales, providing an opportunity to ask questions and to network.
Smart Living WSRID has a place-based focus, and offers an opportunity to strengthen and support the role of innovation in LAEPs. It complements Ynni Cymru’s objectives to expand locally-owned renewable energy used and generated in Wales and to accelerate the transition to and deployment of Smart Local Energy Systems (SLES). To learn more about the Smart Living scheme and other SBRI/Contracts for Innovation programmes it has run visit https://www.gov.wales/smart-living-scheme
The Welsh Government Energy Service is supporting and administering WSRID programme engagement activities with stakeholders on behalf of Welsh Government Smart Living.
To learn more about WSRID and register for the Briefing Events in September contact:
WSRID@energyservice.wales
NOTE: To register your interest in this notice and obtain any additional information please visit the Sell2Wales Web Site at https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=144059. |