Skip to main content

We've saved some files called cookies on your device. These cookies are:

  • essential for the site to work
  • to help improve our website by collecting and reporting information on how you use it

We would also like to save some cookies to help tailor communications.

BETA
You're viewing an updated version of this service - your feedback will help us to improve it.

Contract Notice

Cais am ddyfynbris ar gyfer ysgrifennu, cynhyrchu, cydlynu a pherfformio Sioe Deithiol i deuluoedd

  • First published: 19 July 2024
  • Last modified: 19 July 2024

Contents

Summary

OCID:
ocds-kuma6s-143147
Published by:
Mentera
Authority ID:
AA0860
Publication date:
19 July 2024
Deadline date:
16 August 2024
Notice type:
Contract Notice
Has documents:
Yes
Has SPD:
No
Has Carbon Reduction Plan:
No

Abstract

Amcanion cynnal y Sioe Deithiol: Nod y sioe fydd hyrwyddo’r ffaith bod modd cael bywyd llawn yn ARFOR o ran gwaith a bywyd cymdeithasol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu digwyddiadau bywiog, rhad ac am ddim i deuluoedd yn ardal ARFOR a’u defnyddio fel modd o ymgysylltu â rhieni ardal ARFOR gan drosglwyddo prif negeseuon y prosiect mewn ffordd ysgafn a ffres. Y bwriad yw cynnal dwy sioe mewn theatrau ym mhob un o siroedd ARFOR, a gwneud taith i fyny neu i lawr arfordir Cymru e.e. gallwn gychwyn ar Ynys Môn a gwneud ein ffordd i lawr i Sir Gâr, neu gychwyn yn Sir Gâr a theithio i fyny i Ynys Môn. Un o amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yw herio’r ystrydeb bod angen gadael eich ardal leol er mwyn llwyddo. Rydym am ddarbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid. Rydym felly am sicrhau bod rhieni ardal ARFOR yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i’w plant yn ARFOR, gan obeithio eu darbwyllo nad oes angen iddyn nhw na’u plant symud i ffwrdd er mwyn llwyddo. Mae angen i’r sioe ddangos darlun gonest o fyw a gweithio yn ARFOR gan gynnwys y buddion a’r heriau o fyw a bod yn yr ardal. Yn ddelfrydol, bydd yr actorion yn hanu o ardaloedd ARFOR neu’n byw yn un o siroedd ARFOR ar hyn o bryd. Rydym am glywed trawstoriad o acenion ardaloedd ARFOR yn y sioe. Yn ogystal â’r perfformiadau eu hunain, bydd hefyd lond llaw o stondinau yno i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rieni cyn ac ar ôl y perfformiadau. Y bwriad yw creu gofod ymlaciol lle byddai modd i rieni a theuluoedd sgwrsio a chymdeithasu ayyb. Negeseuon y sioe: Rydym yn eithaf hyblyg o ran stori'r sioe ac yn barod i wrando ar unrhyw syniadau sydd gennych chi mewn golwg. Er hyn, mae’n rhaid i’r sioe gyd-fynd â’r canllawiau isod: Bydd angen i’r sioe: gael ei pherfformio a’i hyrwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg; bod yn addas ar gyfer plant ysgol gynradd; pwysleisio’r negeseuon o bwysigrwydd y Gymraeg a hybu balchder bro, gan fod cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn un o amcanion rhaglen ARFOR; bod yn fywiog, lliwgar ac yn llawn bwrlwm; hyrwyddo amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol – hynny yw, nad oes angen symud i ffwrdd er mwyn llwyddo, a bod modd cael bywyd cymdeithasol a gyrfaol bodlon yn ardaloedd ARFOR, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler rhagor o wybodaeth am y prosiect ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan). Yn ogystal â’r canllawiau uchod, hoffem i’r sioe fod yn ddiddorol, gan ysgogi pobl i feddwl bod y sioe yn ddarlun gonest ond gyda naws bositif. Rydym yn awyddus i gael sioe arloesol a fyddai ychydig yn wahanol i sioeau traddodiadol eraill i blant e.e. gellir cael elfennau rhyngweithiol yn rhan o’r sioe, lle mae’r gynulleidfa yn rhan o’r stori. Dyfynbris: Rydym yn awyddus i dderbyn dyfynbris gennych ar sail darparu gwasanaeth cyflawn o droi ein hedyn syniad yn sgript a sioe o safon sydd â negeseuon clir. Dylai’r dyfynbris gynnwys yr holl gostau o greu a pherfformio’r sioe, gan gynnwys y costau isod: Costau cynllunio ac ysgrifennu’r sgript; Costau castio actorion ac ymarferion; Costau a threuliau staff ac actorion; Costau cydlynu’r sioe, gan gynnwys trefnu lleoliadau a dyddiadau ar gyfer y sioe mewn partneriaeth/cydweithrediad â staff Llwyddo’n Lleol. Noder, bydd costau'r lleoliadau/theatrau yn cael eu talu ar wahân ac nid oes angen i chi gynnwys y costau hyn yn eich dyfynbris; Costau hyrwyddo’r sioe deithiol ar y cyd â Llwyddo’n Lleol ac unrhyw bartneriaid eraill; Costau set; Unrhyw gostau perthnasol eraill. I grynhoi, bydd angen i’r cwmni llwyddiannus gydweithio’n agos â staff y prosiect er mwyn cytuno ar gynnwys a naws y sioe derfynol a chydlynu’r perfformiadau o fewn y daith. Logisteg: Yn ddelfrydol, hoffem i’r sioe gael ei chynnal yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref, sef y dyddiadau isod: 28 Hydref – 1 Tachwedd Os nad yw hyn yn bosib o ran argaeledd ayyb, bydd y penwythn

Full notice text

CONTRACT NOTICE – NATIONAL

SERVICES

1 Authority Details

1.1

Authority Name and Address


Mentera

Y Parc Gwyddoniaeth, Aberystwyth,

Ceredigion

SY23 3AH

UK

Menna Davies

+44 7956194850

llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru


https://www.sell2wales.gov.wales

1.2

Address from which documentation may be obtained

As in 1.1

1.3

Completed documents must be returned to:

As in 1.1

2 Contract Details

2.1

Title

Cais am ddyfynbris ar gyfer ysgrifennu, cynhyrchu, cydlynu a pherfformio Sioe Deithiol i deuluoedd

2.2

Description of the goods or services required

Amcanion cynnal y Sioe Deithiol:

Nod y sioe fydd hyrwyddo’r ffaith bod modd cael bywyd llawn yn ARFOR o ran gwaith a bywyd cymdeithasol, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym hefyd yn awyddus i ddarparu digwyddiadau bywiog, rhad ac am ddim i deuluoedd yn ardal ARFOR a’u defnyddio fel modd o ymgysylltu â rhieni ardal ARFOR gan drosglwyddo prif negeseuon y prosiect mewn ffordd ysgafn a ffres.

Y bwriad yw cynnal dwy sioe mewn theatrau ym mhob un o siroedd ARFOR, a gwneud taith i fyny neu i lawr arfordir Cymru e.e. gallwn gychwyn ar Ynys Môn a gwneud ein ffordd i lawr i Sir Gâr, neu gychwyn yn Sir Gâr a theithio i fyny i Ynys Môn.

Un o amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol 2050 yw herio’r ystrydeb bod angen gadael eich ardal leol er mwyn llwyddo. Rydym am ddarbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid. Rydym felly am sicrhau bod rhieni ardal ARFOR yn ymwybodol o’r cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael i’w plant yn ARFOR, gan obeithio eu darbwyllo nad oes angen iddyn nhw na’u plant symud i ffwrdd er mwyn llwyddo. Mae angen i’r sioe ddangos darlun gonest o fyw a gweithio yn ARFOR gan gynnwys y buddion a’r heriau o fyw a bod yn yr ardal.

Yn ddelfrydol, bydd yr actorion yn hanu o ardaloedd ARFOR neu’n byw yn un o siroedd ARFOR ar hyn o bryd. Rydym am glywed trawstoriad o acenion ardaloedd ARFOR yn y sioe.

Yn ogystal â’r perfformiadau eu hunain, bydd hefyd lond llaw o stondinau yno i ddarparu gwybodaeth a chefnogaeth i rieni cyn ac ar ôl y perfformiadau. Y bwriad yw creu gofod ymlaciol lle byddai modd i rieni a theuluoedd sgwrsio a chymdeithasu ayyb.

Negeseuon y sioe:

Rydym yn eithaf hyblyg o ran stori'r sioe ac yn barod i wrando ar unrhyw syniadau sydd gennych chi mewn golwg.

Er hyn, mae’n rhaid i’r sioe gyd-fynd â’r canllawiau isod:

Bydd angen i’r sioe:

gael ei pherfformio a’i hyrwyddo drwy gyfrwng y Gymraeg;

bod yn addas ar gyfer plant ysgol gynradd;

pwysleisio’r negeseuon o bwysigrwydd y Gymraeg a hybu balchder bro, gan fod cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn un o amcanion rhaglen ARFOR;

bod yn fywiog, lliwgar ac yn llawn bwrlwm;

hyrwyddo amcanion prosiect Llwyddo’n Lleol – hynny yw, nad oes angen symud i ffwrdd er mwyn llwyddo, a bod modd cael bywyd cymdeithasol a gyrfaol bodlon yn ardaloedd ARFOR, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. (Gweler rhagor o wybodaeth am y prosiect ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan).

Yn ogystal â’r canllawiau uchod, hoffem i’r sioe fod yn ddiddorol, gan ysgogi pobl i feddwl bod y sioe yn ddarlun gonest ond gyda naws bositif. Rydym yn awyddus i gael sioe arloesol a fyddai ychydig yn wahanol i sioeau traddodiadol eraill i blant e.e. gellir cael elfennau rhyngweithiol yn rhan o’r sioe, lle mae’r gynulleidfa yn rhan o’r stori.

Dyfynbris:

Rydym yn awyddus i dderbyn dyfynbris gennych ar sail darparu gwasanaeth cyflawn o droi ein hedyn syniad yn sgript a sioe o safon sydd â negeseuon clir.

Dylai’r dyfynbris gynnwys yr holl gostau o greu a pherfformio’r sioe, gan gynnwys y costau isod:

Costau cynllunio ac ysgrifennu’r sgript;

Costau castio actorion ac ymarferion;

Costau a threuliau staff ac actorion;

Costau cydlynu’r sioe, gan gynnwys trefnu lleoliadau a dyddiadau ar gyfer y sioe mewn partneriaeth/cydweithrediad â staff Llwyddo’n Lleol. Noder, bydd costau'r lleoliadau/theatrau yn cael eu talu ar wahân ac nid oes angen i chi gynnwys y costau hyn yn eich dyfynbris;

Costau hyrwyddo’r sioe deithiol ar y cyd â Llwyddo’n Lleol ac unrhyw bartneriaid eraill;

Costau set;

Unrhyw gostau perthnasol eraill.

I grynhoi, bydd angen i’r cwmni llwyddiannus gydweithio’n agos â staff y prosiect er mwyn cytuno ar gynnwys a naws y sioe derfynol a chydlynu’r perfformiadau o fewn y daith.

Logisteg:

Yn ddelfrydol, hoffem i’r sioe gael ei chynnal yn ystod wythnos hanner tymor mis Hydref, sef y dyddiadau isod:

28 Hydref – 1 Tachwedd

Os nad yw hyn yn bosib o ran argaeledd ayyb, bydd y penwythnosau o amgylch y dyddiadau uchod hefyd yn gweithio o ran llinell amser y prosiect.

Bydd tocynnau i’r sioe am ddim a’r holl gostau yn cael eu hariannu gan brosiect Llwyddo’n Lleol. Er hyn, bydd angen i’r teuluoedd / plant gofrestru i’r sioeau fel bod gennym amcangyfrif o'r rhai fydd yn dod. Bydd angen sicrhau bod yna broses archebu tocynnau ar gael ar gyfer pob lleoliad, felly.

Cyllideb

Nid ydym am osod cyfyngiad cyllidebol ar gyfer y gwaith hwn. Yn hytrach, croesawn ddyfynbrisiau sy’n cynnwys opsiynau o ran gwariant.

NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=143147 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.

2.3

Notice Coding and Classification

92312000 Gwasanaethau artistig
92312110 Gwasanaethau adloniant cynhyrchwyr theatr
92312200 Gwasanaethau a ddarperir gan awduron, cyfansoddwyr, cerflunwyr, diddanwyr ac artistiaid unigol eraill
92312211 Gwasanaethau asiantaeth ysgrifennu
1000 CYMRU
1010 Gorllewin Cymru a'r Cymoedd
1011 Ynys Môn
1012 Gwynedd
1013 Conwy a Sir Ddinbych
1014 De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
1015 Cymoedd Canalog (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
1016 Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
1017 Pen-y-bont ar Ogwr a Castell-Nedd Port Talbot
1018 Abertawe
1020 Dwyrain Cymru
1021 Sir Fynwy a Chasnewydd
1022 Caerdydd a Bro Morgannwg
1023 Sir y Fflint a Wrecsam
1024 Powys

2.4

Total quantity or scope of tender

Y bwriad yw cynnal dwy sioe mewn theatrau ym mhob un o bedair sir ARFOR, a gwneud taith i fyny neu i lawr arfordir Cymru

3 Conditions for Participation

3.1

Minimum standards and qualification required

4 Administrative Information

4.1

Type of Procedure

Single stage

4.2

Reference number attributed to the notice by the contracting authority

N/a

4.3

Time Limits

Time-limit for receipt of completed tenders
    16-08-2024  Time  13:00

Estimated award date
 23-08-2024

4.5

Language or languages in which tenders or requests to participate can be drawn up

EN  CY 

4.6

Tender Submission Postbox

5 Other Information

5.1

Additional Information

(WA Ref:143147)

Mae'r prynwr yn ystyried bod y contract hwn yn addas ar gyfer ceisiadau consortia.

5.2

Additional Documentation

Briff Sioe i Blant - Taith ARFOR (Cym)
Briff Sioe i Blant - Taith ARFOR (Eng)

5.3

Publication date of this notice

 19-07-2024

Coding

Commodity categories

ID Title Parent category
92312000 Artistic services Artistic and literary creation and interpretation services
92312200 Services provided by authors, composers, sculptors, entertainers and other individual artists Artistic services
92312110 Theatrical producer entertainment services Artistic services
92312211 Writing agency services Artistic services

Delivery locations

ID Description
1017 Bridgend and Neath Port Talbot
1022 Cardiff and Vale of Glamorgan
1015 Central Valleys (Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf)
1013 Conwy and Denbighshire
1020 East Wales
1023 Flintshire and Wrexham
1016 Gwent Valleys (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerphilly)
1012 Gwynedd
1011 Isle of Anglesey
1021 Monmouthshire and Newport
1024 Powys
1014 South West Wales (Carmarthenshire, Pembrokeshire, Ceredigion)
1018 Swansea
1000 WALES
1010 West Wales and The Valleys

Alert region restrictions

The buyer has restricted the alert for this notice to suppliers based in the following regions.

ID Description
There are no alert restrictions for this notice.

About the buyer

Main contact:
llwyddonlleol@rhaglenarfor.cymru
Admin contact:
N/a
Technical contact:
N/a
Other contact:
N/a

Further information

Date Details
No further information has been uploaded.

Q&A

Ask the buyer any questions you may have relating to this notice. To ask the buyer a question or questions please click the "View Questions and Answers" button.

Additional Documents

The following additional documents have been attached to this notice. To obtain these documents please select the individual file names below.

Current documents

pdf
pdf71.62 KB
This file may not be accessible.
pdf
pdf69.38 KB
This file may not be accessible.

Replaced documents

There are no previous versions of these documents.


0800 222 9004

Lines are open 8:30am to 5pm Monday to Friday.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.

We welcome calls in Welsh.