Description of the contract
Prosiect Datblygu Bryn y Beili
Mae Cyngor Sir y Fflint, drwy weithio mewn partneriaeth â Chyngor Tref yr Wyddgrug a Chyfeillion Bryn y Beili, wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Gronfa Dreftadaeth Y Loteri, Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (Twristiaeth Llywodraeth Cymru) a LEADER (Cadwyn Clwyd) i ddatblygu Bryn y Beili yn Yr Wyddgrug.
Mae’r Cyngor nawr eisiau penodi Ymgynghorydd Arweiniol i roi’r prosiect ar waith. Bydd yr Ymgynghorydd Arweiniol yn gyfrifol am roi tîm addas at ei gilydd i ymgymryd â’r holl dasgau gofynnol ar gyfer y prosiect, o’r hysbysiad grant hyd at ddiwedd y prosiect, gyda chefnogaeth grŵp llywio’r prosiect. Rhagwelir y bydd y tîm ymgynghoriaeth yn cael ei arwain gan bensaer tirwedd. Bydd y tîm yn cynnwys, ond nid wedi’i gyfyngu i, bensaer, peiriannydd strwythurol, peiriannydd sifil, peiriannydd mecanyddol a thrydanol, syrfëwr meintiau, ecolegydd a thyfwr coed.
Bryn y Beili yw safle Castell Normanaidd wedi'i leoli yn nhref farchnad hanesyddol Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Ym 1870, sicrhawyd y safle fel parc i drigolion Yr Wyddgrug drwy gyfraniadau gan y cyhoedd, ac mae’n parhau i fod yn barc cyhoeddus hyd heddiw sy’n darparu man gwyrdd pwysig yng nghanol y dref.
Mae’r safle yn ei gyfanrwydd yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint, ac wedi’i leoli o fewn Ardal Gadwraeth, ac mae hefyd wedi ‘i ddynodi’n Heneb Gofrestredig.
Mae’r briff hwn yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer y gwaith ymgynghoriaeth; ei amcanion a’i fethodoleg, y gwaith sy’n ofynnol, yr amserlen, y meini prawf dethol a’r cylch gorchwyl a’r amodau cyflogaeth.
|