Description of the goods or services required
Gofynion o ran gwasanaeth
Mae Llwyddo'n Lleol 2050 yn dymuno penodi cwmni i greu pecyn hyrwyddo ar gyfer y Nadolig, gan gynnwys: hysbyseb weledol 30 eiliad o hyd ar gyfer y teledu, sianeli teledu daearol digidol, platfformau ffrydio, a’r cyfryngau cymdeithasol; gwaith celf digidol ar gyfer hysbysfyrddau (ar gyfer gorsafoedd trên ac ymyl y ffordd), a deunydd hyrwyddo mawr (baneri a phosteri) sy'n ategu negeseuon yr hysbyseb weledol / hysbyseb deledu. Mae angen i’r fideo a’r deunydd hyrwyddo gyfleu’r neges bod ARFOR (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn) yn ardal ddeniadol a blaengar i’r Gymraeg ffynnu ynddi, i fusnesau Cymraeg lwyddo, ac i Gymry ifanc fyw bywyd boddhaol.
Amcanion y pecyn hyrwyddo
Y prif amcan yw creu hysbyseb Nadolig gofiadwy a chanddi neges a stori dwymgalon sy’n cael ei hadrodd o safbwynt plentyn. Er enghraifft, yr hyn y mae’r plentyn yn dymuno ei gael neu’n ei dderbyn fel anrheg yw treulio amser gyda’r teulu yn ardal ARFOR. Gallai rhestr dymuniadau’r plentyn gynnig cyfle i hyrwyddo’r pedair sir fel llefydd gwych i fyw a gweithio ac i fagu teulu ynddynt.
● Dylid arddangos y Gymraeg fel rhan amlwg o fywyd yn ARFOR. Cymraeg yw iaith iard yrysgol ac wrth gymdeithasu â theuluoedd a ffrindiau.
● Dylai’r hysbyseb hyrwyddo’r pedair sir fel llefydd gwych i fyw a gweithio ac i fagu teuluynddynt. Dylid tynnu sylw at y cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith y gellir ei gyflawni ynARFOR.
● Dylid creu canfyddiad cadarnhaol o ddyfodol ARFOR fel rhanbarth.
● Dylid cyflwyno darlun real o’r math o ffordd o fyw realistig y gall ARFOR ei chynnig.
●Dylid denu’r rhai sydd wedi gadael ARFOR i ddychwelyd i’r rhanbarth gan ddefnyddio cyfnody Nadolig fel cymhelliad. Rydym hefyd yn croesawu syniadau eraill o ran sut i gyfleu’ransawdd bywyd y gellir ei gael ym mhedair sir ARFOR.
Cwmpas y prosiect
Dylai fod gan y tîm creadigol llwyddiannus:
●Brofiad amlwg o ddylunio, creu a datblygu hysbysebion hyrwyddol ar gyfer y cyfryngaudarlledu;
●Profiad amlwg o gyflwyno gweithgaredd hyrwyddo ar raddfa fawr ar amser a chan gadw at ygyllideb.
●Profiad amlwg o greu fideos hyrwyddo a deunyddiau print dwyieithog;
●Ateb cost-effeithiol, gwerth gorau; ymagwedd broffesiynol, arloesol a chreadigol.
Cynulleidfa
Mae gan ARFOR – Llwyddo'n Lleol gynulleidfa eang. Er bod y prosiect yn canolbwyntio ar bobl ifanc a theuluoedd rhwng 11 a 35 oed, mae hefyd yn ceisio dylanwadu ar y rhai o'u cwmpas fel rhieni, athrawon, a sefydliadau eraill. Mae angen i'r deunyddiau hyrwyddo, felly, apelio at gynulleidfa gymysg, er yn ddelfrydol byddai'n apelio at deuluoedd ifanc ac yn siarad â nhw.
Service requirement
Llwyddo’n Lleol 2050 wishes to appoint a company to create a Christmas promotional package including: a 30 second visual advertisement for TV, digital terrestrial television channels, streaming platforms and social media; digital artwork for billboards (for train stations and roadside), and large promotional material (banners and posters) that complement the messaging of the visual / TV advertisement. The video and promotional material needs to convey that ARFOR (Carmarthenshire, Ceredigion, Gwynedd, and Anglesey) is an attractive and progressive area for the Welsh language to thrive, for Welsh businesses to succeed, and for young Welsh people to live a fulfilling life.
Objectives of the promotional package:
The main objective is to create a memorable Christmas advert with a strong heart-warming message and story through the eyes of a child. For example, the gift that the child wants or is given is spending time with his/her/their family in the scenic ARFOR region. His/her/their Christmas wish list could provide an opportunity to promote all four regions as great places to live and work and raise a family in particular.
● Showcase the Welsh language as a prominent aspect of life in ARFOR. Welsh being thelanguage on the school yard and when socialising with friends and family.
● The advert should promote all four regions as great places to live and work and raise a familyin particular. Highlighting the work/life balance that can be achieved in ARFOR.
● Create a positive perception of the ARFOR area’s future.
● Provide a real representation of the realistic lifestyle ARFOR can offer.
● Entice Welsh emigrants to return home to ARFOR by using the Christmas period as a motive. We also welcome other ideas in terms of how to convey the quality of life that can be achieved in the four regions of ARFOR.
Project scope
The successful creative team should have:
● Demonstrated experience of creating promotional advertisement design and development for broadcasting media purposes;
● Demonstrated experience of delivering large scale promotional activity on time and to budget.
● Demonstrated experience of creating bilingual promotional videos and print materials;
● A cost-effective, best-value solution; a professional, innovative, and creative approach.
Audience
ARFOR – Llwyddo’n Lleol has a wide audience. Although the project focuses on young people and families between the ages of 11 and 35 years, it also aims to influence those around them such as parents, teachers, and other organisations. The promotional materials therefore need to appeal to a mixed audience, although preferably it would appeal and speak to young families.
NODER: Ewch i'r Wefan yn https://www.sell2wales.gov.wales/Search/Search_Switch.aspx?ID=144571 i gofrestru eich diddordeb yn yr hysbysiad hwn a chael unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Mae'r awdurdod dyfarnu wedi nodi y bydd yn derbyn ymatebion electronig i'r hysbysiad hwn drwy'r cyfleuster 'Blwch Postio Cyflwyno Tendrau'. Mae rhagor o fanylion am y cyfleuster hwn ar gael yn https://www.sell2wales.gov.wales/sitehelp/help_guides.aspx.
Cynghorir cyflenwyr i ganiatáu digon o amser i lanlwytho dogfennau ac anfon yr ymateb electronig ymhell cyn yr amser cau er mwyn osgoi unrhyw broblemau munud olaf.
|