Overview of Public Services Ombudsman for Wales
The office was established under the Public Services Ombudsman (Wales) Act 2005 and has two specific roles. The first is to consider complaints made by members of the public that they have suffered hardship or injustice through maladministration or service failure on the part of a body in jurisdiction. The second role is to consider complaints that members of local authorities have breached the Code of Conduct.
Bodies within the jurisdiction of the Public Services Ombudsman for Wales (PSOW) include local councils, the National Health Service, housing associations, social care providers and the Welsh Government. The office can investigate complaints made by members of the public that they have suffered hardship or injustice through maladministration or service failure.
The Ombudsman is an independent public official appointed by HM The Queen on the nomination of the National Assembly for Wales. Around 60 staff work with the Ombudsman and are based at offices in Pencoed, near Bridgend.
The Ombudsman prepares an Annual Report which is laid before the National Assembly for Wales. This is available on the PSOW website. Further information about the PSOW can be found at: www.ombudsman-wales.org.uk
Trosolwg o Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
Cafodd y swydd ei sefydlu o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac mae ganddi ddwy rôl benodol. Y cyntaf yw ystyried cwynion a wneir gan y cyhoedd eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder drwy gamweinyddiaeth neu fethiant gwasanaeth ar ran corff ag awdurdodaeth. Yr ail rôl yw ystyried cwynion bod aelodau awdurdodau lleol wedi torri’r Cod Ymddygiad.
Mae cyrff sydd wedi’u cynnwys yn awdurdodaeth Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnwys cynghorau lleol, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cymdeithasau tai, darparwyr gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Gall y swydd ymchwilio i gwynion a wneir gan y cyhoedd eu bod wedi dioddef caledi neu anghyfiawnder drwy gamweinyddiaeth neu fethiant gwasanaeth.
Mae’r Ombwdsmon yn swyddog cyhoeddus annibynnol sy’n cael ei benodi gan EM y Frenhines yn dilyn enwebiad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae tua 60 aelod o staff yn gweithio i’r Ombwdsmon mewn swyddfeydd ym Mhencoed, ger Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae’r Ombwdsmon yn paratoi Adroddiad Blynyddol a gyflwynir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r adroddiad hwn ar gael ar wefan yr Ombwdsmon. Mae gwybodaeth bellach am Ombwdsmon Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gael yn: https://www.ombwdsmon.cymru/