Total quantity or scope of tender
Am fanylion am y model prisio - gweler y dogfenau atodwyd
English version in attachments
1. CYFLWYNIAD
Mae Cyngor Gwynedd yn sefydlu a datblygu pecyn / model Cymhelliant sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus cynaliadwy sy’n rhan integredig o’r gefnogaeth mae’r Adran Addysg ganolog yn darparu i ysgolion Gwynedd.
Bydd y model / pecyn yn seiliedig ar ymarferion Cymhelliant Gweithredol ac yn rhan integredig o’r gefnogaeth mae’r Adran Addysg ganolog yn darparu arweinwyr mewn ysgolion. Bydd y gefnogaeth yma’n cael ei ddefnyddio’n rhagweithiol, ataliol ac yn ymatebol i anghenion Penaethiaid a photensial benaethiaid yn y Sector Addysg yng Ngwynedd.
Bydd hyn yn cyfoethogi’r gefnogaeth ddatblygol yn y sector addysg er mwyn gwella lles, ymrwymiad, canlyniadau a pherfformiad arweinwyr, ymarferwyr, staff a phlant ac yn ymateb i un o flaenoriaethau’r Adran Addysg yng Nghynllun Y Cyngor 2018 – 2023 sef Cryfhau Arweinyddiaeth
Mae galw i sefydlu trefn gynaliadwy, hir dymor a chyson o ddarparu cefnogaeth ddatblygol i arweinwyr yn y maes addysgu wrth iddynt wynebu cyfnodau heriol yn y sector. Byddwn yn rhoi pwyslais ar gefnogaeth ragweithiol i hybu datblygiad proffesiynol parhaus i arweinwyr, yn hytrach a chefnogaeth ymatebol mewn amseroedd heriol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod galw i gyfoethogi a chefnogi arweinyddion ar sail 1:1 wrth ymdopi gyda datblygiadau yn y maes Addysg gan gynnwys:
• Newidiadau Cwricwlaidd (Paratoi am weithredu erbyn 2022 - 2026)
• Safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru (gweithredwyd o Fedi 2018)
• Sefydliad yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol
Y Prosiect Sefydlu: Cymhelliant yn y Sector Addysg
Yn dilyn llwyddiant Prosiect Peilot “Cymhelliant yn yr Adran Addysg 2018 - 2019”, lluniwyd, gweithredwyd ar y cyd rhwng y tîm Dysgu a Datblygu Sefydliad ac Adran Addysg Cyngor Gwynedd, credwn y gallai sefydlu pecyn / model llwyddiannus sy’n cynnwys:
• sesiynau cymhelliant 1:1
• datblygu sgiliau cymhelliant arweinwyr yn y sector addysg
gefnogi gweithrediad cynaliadwy o ymarferion dysgu ac arwain mewn addysg, a gall hyn gyfrannu at wella canlyniadau disgyblion.
Amcanion y prosiect
Sefydlu pecyn /model er mwyn darparu rhaglen ddatblygol unigryw i ysgolion sy’n cynnwys 2 prif elfen:
1. Cymhelliant Gweithredol i’r Pennaeth a’r UDRh
a. Mae hyn gynnwys ymarferion cymell sy’n cynnwys (nid n gyfyng i) y defnydd o dechnegau Cymell arbenigol (yn hytrach na mentora ac yn sicr nid Cwnsela) sy’n herio meddylfryd hunan datblygiad yr arweinydd a’r ysgol. Mae hyn yn cynnwys y defnyddio o broffilio hunan ddatblygiad e.e. DiSC (gweler atodiad 4)
2. Sesiynau i ddatblygu sgiliau Cymhelliant y Pennaeth, UDRh ac arweinwyr eraill yn yr ysgolion
Bydd pob rhaglen yn cael ei deilwra i’r ysgolion unigol ac felly gall gynnwys elfennau neu flaenoriaethau tu hwnt i’r 2 prif elfen yma.
1.1 PWRPAS Y FANYLEB YMA
Er mwyn sicrhau cynaladwyedd gefnogaeth o’r math yma i’r dyfodol mae’r Cyngor yn ystyried buddsoddi mewn hyfforddiant i gymhwyso arweinwyr addas yn y maes Addysg i fod yn Gymhellwyr Cymwysedig trwy gwrs cydnabyddus (e.e. ILM neu CMI mewn Cymhelliant a Mentora gweithredol)
Bydd hyn yn cyfoethogi’r gefnogaeth ddatblygol yn y sector addysg er mwyn gwella lles, ymrwymiad, canlyniadau a pherfformiad arweinwyr, ymarferwyr, staff a phlant ac yn ymateb i un o flaenoriaethau’r Adran Addysg yng Nghynllun Y Cyngor 2018 - 2023 sef Cryfhau Arweinyddiaeth
2. GOFYNION CYFFREDINOL
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am ddarparwr i gyflwyno rhaglen er mwyn cymhwyso arweinwyr addas ( a elwir yn fyfyrwyr y rhaglen o’r pwynt yma ymlaen) o fewn y sector Addysg i fod yn Gymhellwyr cymwysedig. Mae’n hanfodol bod cwrs yma’n cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd hyn yn cynnwys:
• Cwrs sy’n cynnwys rhaglen o sesiynau wyneb i wyneb er mwyn dysgu’r syllabus o gymhwyster cydnabyddus (ILM neu CMI lefel 5)
• Cofrestru myfyrwyr gyda sefydliad y cymhwyster
• Asesu gwaith ysgrifenedig y myfyrwyr, rhoi adborth, cefnogi a goruchwylio.
3. GOFYNION PENODOL Y RHAGLEN
• Rhaid cyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb at safon uchel er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr yn ennill y wybodaeth a’r ddealltwriaeth hanfodol sydd ei hangen er mwyn cymhwyso fel Cymhellwyr Cymwysedig yn llwyddiannus.
• Bydd y darparydd llwyddiannus yn darparu cwrs, sesiynau ac unrhyw gefnogaeth gan ddefnyddio’r syllabus a gweithgareddau sy’n dilyn gofynion sefydliad cydnabyddus yn y maes Cymhelliant a Mentora (e.e. ILM, CMI neu sefydliad academaidd arall).
• Bydd y darparydd yn gyfrifol am weinyddu’r cwrs o dan anghenion sefydliad cydnabyddus ( cofrestru gyda’r sefydliad, tystysgrifo ayyb)
• Y darparwr fydd yn gyfrifol am gynhyrchu a darparu deunyddiau dysgu ac asesu
• Rhaid i’r cwrs gael eihachredu drwy’r sefydliad cydnabyddus dan sylw (e.e. ILM neu CMI, neu sefydliad academaidd / broffesiynol cydnabyddus)
• Bydd y darparwr yn goruchwylio, monitro cynnydd gwaith a chynnig cefnogaeth addysgol i’r myfyrwyr er mwyn sicrhau eu bod yn:
o Cyflawni elfennau ymarferol y cwrs ( oriau o gymell ymarferol)
o Yn gallu ysgrifennu a chyflwyno asesiadau ysgrifenedig i safon sy’n ofynnol a’r syllabus
• Asesu, rhoi adborth a dilysu gwaith ysgrifenedig myfyrwyr
• Mae’n hanfodol bod cwrs a’i holl ddefnyddiau’n cael ei gynnig trwy gyfrwng y Gymraeg.
4. UCHAFU EFFAITH Y DYSGU
Rhoddir pwyslais ar sicrhau bod sgiliau a gwybodaeth a ddatblygir gan fynychwyr yn cael eu defnyddio er mwyn sicrhau cynaladwyedd darparu pecyn / model Cymhelliant sy’n cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus cynaliadwy sy’n rhan integredig o’r gefnogaeth mae’r Adran Addysg ganolog yn darparu i ysgolion Gwynedd..
• Bydd gofyn i fyfyrwyr gytuno mabwysiadu rôl fel Cymhellwyr i arweinwyr eraill (ar ben eu cyfrifoldebau fel arweinwyr) yn yr hir dymor. (rydym yn awgrymu cynnig cymell 1 cleient, 4 - 6 sesiwn o fewn 12 - 18 mis).
• Bydd y myfyrwyr yn gosod targedau personol er mwyn defnyddio'r hyfforddiant / cymhwyster i ddatblygu'n barhaus fel arweinwyr yn y sector.
• Bydd y darparydd yn cyflwyno adborth cryno ar fyfyrwyr i’r Rheolwyr Prosiect Cymhelliant yn y Sector Addysg, o ran perfformiad, agwedd ac ymrwymiad. Bydd yr adborth yn cael ei ddefnyddio er mwyn mesur effaith a llwyddiant y prosiect yn ei gyfanrwydd.
5. HYD Y CWRS
Fel y nodir uchod, bydd y cwrs yn dilyn sylabus a gweithgareddau sy’n ofynnol yn ôl sefydliad cydnabyddus yn y maes Cymhelliant a Mentora (e.e. ILM neu CMI) felly bydd hyd y rhaglen o sesiynau, yr amser i ymarfer ac ysgrifennu asesiadau’n ddibynnol ar y gofynion yma.
Er hyn, byddwn yn annog i’r holl sesiynau wyneb i wyneb barhau am ddim mwy na 6 mis a’r cyfnod asesu barhau dim mwy na 6 mis ychwanegol. Cyfanswm o 12 mis
6. NIFER MYNYCHWYR
6 – 10 o fyfyrwyr
Byddwn yn gofyn i chi nodi prisiau yn seiliedig ar y canolrif sef 8 myfyriwr yn y model prisio yng nghymal 12
7. LLEOLIAD
• Bydd y cyrsiau’n cael eu cynnal mewn amryw leoliadau yng Ngwynedd yn cynnwys Caernarfon, Bangor, Penrhyndeudraeth a Dolgellau.
• Tîm Dysgu a Datblygu Sefydliad Cyngor Gwynedd fydd yn gyfrifol am drefnu lleoliadau
8. CWRS PEILOT
Fel rhan o broses sicrhau ansawdd y Cyngor, mae pob teitl neu gwrs newydd yn ddibynnol ar gyflwyno cwrs peilot llwyddiannus.
Bydd panel sicrhau ansawdd, sy’n cynnwys aelodau o Fwrdd Prosiect Cymhelliant yn y Sector Addysg yn asesu pob agwedd ar y cwrs yn erbyn meini prawf penodedig. Bydd unrhyw gyrsiau dilynol yn ddibynnol ar ganlyniad y peilot.
9. HYD Y CONTRACT
• Fel y nodir uchod, bydd y cwrs yn dilyn syllabus a gweithgareddau sy’n ofynnol yn ôl sefydliad cydnabyddus yn y maes Cymhelliant a Mentora (e.e. ILM neu CMI) felly bydd hyd y contract yn ddibynnol a’r hyd y cwrs sy’n dilyn y gofynion yma.
• Er hyn, byddwn yn cyfyngu unrhyw gytundeb i gyfanswm o 12 mis
• Bydd y Cyngor yn asesu llwyddiant y cwrs yn dilyn cwrs peilot ac yn asesu os galw i ail –gomisiynu ac ymestyn y contract
10. GWYBODAETH HANFODOL
• Ni fydd cyrsiau sy’n cael eu cynnig yn uniaith Saesneg yn cael eu hystyried.
• Bydd y fanyleb yn cael ei hasesu drwy ddefnyddio cymhareb o 70% i’r ansawdd a 30% i’r pris.
• Rydym yn asesu’r ansawdd trwy’r ymatebion roddwyd i’r cwestiynau cais a nodir ar dudalen 2 o’r fanyleb yma.
• Rydym yn asesu’r pris wrth ddefnyddio’r model prisio yng nghymal 12.
11. GWYBODAETH BELLACH
• Rhaid i'r dyfynbris gynnwys yr holl gostau. Ni fydd y Cyngor yn talu am unrhyw gostau ychwanegol nad ydynt yn ymddangos yn y dyfynbris gwreiddiol.
• Rhaid dangos TAW (os codir amdano) ar wahân
• Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am unrhyw gostau neu dreuliau sy’n gysylltiedig â pharatoi’r dyfynbris hwn.
|